Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202205541

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr D nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi ymateb i’w gŵyn ynghylch gohebiaeth ganddo am gynnal a chadw lôn gyhoeddus.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi penderfynu’n anghywir na ddylai’r gŵyn gael ymateb yng Ngham 2 ei drefn gwyno. Dywedodd fod hyn wedi peri rhwystredigaeth i Mr D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr D a darparu ymateb llawn a therfynol i Gam 2 y gŵyn i Mr D o fewn 6 wythnos.