Dyddiad yr Adroddiad

08/04/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202101701

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Adran Priffyrdd y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w ohebiaeth e-bost. Cwynodd hefyd, yn dilyn ei gŵyn ffurfiol i’r Cyngor ynglŷn â’r mater hwnnw, nad oedd wedi derbyn ymateb i’r gŵyn.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor y byddai’n darparu ymateb ysgrifenedig i gŵyn Mr X, ac yn gwneud taliad gwirfoddol o £125 i gydnabod yr amser a’r drafferth a gafodd wrth fwrw ymlaen â’r gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i wneud hynny o fewn 7 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad.