Dyddiad yr Adroddiad

10/10/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202204034

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na wnaeth y Cyngor ymateb i’w gŵyn am barcio peryglus.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor, a chytunodd i ymateb i gŵyn Mr X erbyn 14 Hydref 2022. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad digonol yn lle ymchwilio i’r gŵyn.