Dyddiad yr Adroddiad

10/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Ffyrdd a Thrafnidiaeth

Cyfeirnod Achos

202204056

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi cwblhau gwaith ffordd y cytunwyd arno i gywiro tyllau yn y ffordd a oedd yn arwain at ei eiddo.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor, a chytunodd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr X am yr oedi. Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2022.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad digonol yn lle ymchwilio i’r gŵyn.