Dyddiad yr Adroddiad

05/19/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202200851

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi gwaredu ei fainc mewn camgymeriad pan oedd cymydog wedi trefnu i’w wresogydd gael ei gasglu. Cwynodd Mr X er iddo gyflwyno cwyn ffurfiol i’r Cyngor, na chafodd ymddiheuriad a bod gweithredoedd y Cyngor wedi achosi anghyfleustra iddo.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod hyn wedi achosi anghyfleustra i Mr X ac felly fe wnaeth gysylltu â’r Cyngor. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i gyflwyno llythyr o ymddiheuriad i Mr X, a chynnig iddo hefyd iawndal o £120 erbyn 17 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn bodloni cwyn Mr X.