Dyddiad yr Adroddiad

03/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202104393

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am fethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) a Chyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) i ddweud wrtho mewn pryd fod Panel CIC y Bwrdd Iechyd wedi herio argymhelliad y tîm amlddisgyblaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus a ariennir gan y GIG a fyddai wedi talu am gostau ffioedd cartref gofal ei wraig. Roedd Mr A hefyd yn anfodlon â’r ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor â chwynion a pha mor gadarn oedd yr ymateb i’r gŵyn. Yn olaf, roedd Mr A yn anhapus â rôl y Cyngor yn y gwaith o gynllunio rhyddhau ei wraig o’r ysbyty a chyllido ei gofal yn y cartref gofal.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod methiannau ym mhrosesau’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor wedi cyfrannu at Mrs A, sydd â dementia diwedd cyfnod ac sydd heb alluedd meddyliol, yn cronni dyled gofal cymdeithasol heb ei thalu o £19,787.51.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A am beidio â chael gwybod gan y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor yn brydlon am y cyllid mae anghydfod yn ei gylch gan y Cyngor Iechyd Cymuned a’r methiannau o ran delio â chwynion.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd, o ran cynllunio a chyllido rhyddhau Mrs A, y dylai’r Cyngor fod wedi sicrhau bod Mr A yn ymwybodol o oblygiadau ariannol costau gofal cymdeithasol y gellir codi tâl amdanynt, pe na bai cyllid y CIC yn cael ei roi ar waith. Dylai hefyd fod wedi trafod gyda Mr A, cyn rhyddhau Mrs A, yr angen i gwblhau asesiad ariannol a fyddai wedi lleihau’r costau gofal cymdeithasol y mae’n rhaid i Mrs A eu talu wedi hynny. Cafodd y rhan hwn o gŵyn Mr A ei gadarnhau hefyd.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod methiannau’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi achosi anghyfiawnder i Mr A gan ei fod yn ychwanegu at straen a phryder Mr A.
Er nad yw’r Ombwdsmon yn gallu gwneud canfyddiadau pendant o dorri’r Cod, roedd o’r farn bod hawliau Erthygl 8 Mr a Mrs A wedi cael eu rhoi ar waith, gan fod amser Mr A gyda’i wraig wedi ei ddifetha gan y straen o ddelio â lefel y ddyled yr oedd ei wraig, heb unrhyw fai arni hi ei hun, wedi eu chronni. Roedd hyn wedi gwaethygu ar adegau oherwydd yr ansicrwydd ynghylch trefniadau byw Mrs A, a’r bygythiadau yr oedd Mrs A wedi eu hwynebu yn y gorffennol o gael ei throi allan o’r cartref gofal.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor yn cynnwys ymddiheuriad. Roedd yr argymhellion hefyd yn rhoi sylw i’r ffioedd cartrefi gofal a ddaeth i’w rhan, ac effaith net peidio â thalu ffioedd am y cyfnod perthnasol. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor hefyd dalu iawndal o £1,000 i Mr A i gydnabod y trallod a’r anhwylustod a achoswyd iddo.