Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202107158

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs N fod y Cyngor wedi methu â chau achos diogelu a rhoi gwybod i sefydliad ieuenctid, lle’r oedd Mrs N yn gwirfoddoli ac yn gweithio, am y canlyniad ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben. Er iddi gysylltu â’r Cyngor sawl gwaith am hyn, dywedodd na chafodd unrhyw ymateb i rywfaint o’i gohebiaeth ac na chymerwyd unrhyw gamau tan flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd hyn yn atal Mrs N rhag dychwelyd i’w rôl gyda’r sefydliad ieuenctid. Dywedodd Mrs N hefyd fod y Cyngor wedi methu â mynd i’r afael â’i phryderon yn briodol pan wnaeth gŵyn ffurfiol.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr aelod o staff a oedd yn gyfrifol am yr oedi ac am beidio ag ystyried gohebiaeth Mrs N wedi cymryd cyfrifoldeb personol llawn am y methiannau hyn. Fodd bynnag, gohiriwyd ymateb terfynol y Cyngor i’r gŵyn, a oedd yn dwysáu pryderon Mrs N ynghylch a oedd staff yn gweithredu’n brydlon ac yn briodol ynglŷn â gohebiaeth. Yn ogystal â hyn, dylai’r Cyngor fod wedi gwneud mwy i dawelu meddwl Mrs N fod yr effaith arni wedi’i gwerthfawrogi’n llawn ac i ddangos bod y Cyngor wedi cymryd cyfrifoldeb corfforaethol am y camweinyddu a ddigwyddodd.

Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mrs N i roi ymddiheuriad corfforaethol, gan gynnwys esboniad o’r camau yr oedd wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag achos y problemau yn yr achos hwn, ac i ddangos ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb corfforaethol am y camweinyddu a ganfuwyd. Cytunodd hefyd i gynnig £725 i Mrs N i gydnabod yr anghyfiawnder gan na allai ddychwelyd i’r sefydliad ieuenctid, am ei hamser a’i thrafferthion yn mynd ar drywydd ei hachos, a’r ffordd wael o ymdrin â chwynion. Cytunodd i gwblhau’r camau hyn o fewn 1 mis.