Dyddiad yr Adroddiad

08/30/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202201807

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Cyngor wedi methu â chyfathrebu a delio â’i anghenion tai a oedd yn ei wneud yn ddigartref yn ystod 2021.
Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon ag ymatebion y Cyngor i Mr A ar ddau gam o’i weithdrefn gwyno. Roedd diffyg manylion yn y ddau ymateb ac ni wnaethant ddarparu digon o wybodaeth am ei weithredoedd a’i benderfyniadau yn ystod yr amser oedd yn ymdrin â Mr A.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i ysgrifennu llythyr at Mr A yn ymateb i’r materion a godwyd ganddo yn ei gŵyn wreiddiol
1) Manylu ar pa gamau y mae wedi’u cymryd i ymdrin â’r materion a godwyd gan Mr A, gan ddarparu’r rhesymeg y tu ôl i’w benderfyniadau, lle bo modd.
2) Darparu esboniad am unrhyw rai o’i benderfyniadau i wrthod unrhyw benderfyniadau a awgrymwyd gan Mr A yn ystod yr amser y cwynodd amdano.
Dylid cwblhau hwn o fewn 30 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr penderfyniad hwn.