Dyddiad yr Adroddiad

10/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202203430

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi gosod arwyddion i adlewyrchu’r cyfyngiadau cyflymder newydd ar ei ffordd. Dywedodd ei fod wedi cyflwyno cwyn ac wedi e-bostio’r Cyngor ond nad oedd wedi cael ymateb.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Cyngor, rhoddwyd gwybod i’r Ombwdsmon bod ymateb wedi cael ei roi i Mr X yn dilyn hynny. Fodd bynnag, ar ôl ystyriaeth bellach, nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod pryderon Mr X wedi’u hateb yn llawn ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor ddarparu ymddiheuriad diffuant i Mr X am yr oedi a’r methiant i ymateb yn ffurfiol i’w gŵyn a chyflwyno ymateb ychwanegol i gŵyn Mr X o fewn 10 diwrnod gwaith.