Dyddiad yr Adroddiad

09/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202201042

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am safon y gofal a ddarparwyd i’w nith, Ms Y, yn ystod cyfnod mewn llety â chymorth, cyn ei marwolaeth. Cwynodd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chwynion.

Dywedodd y Cyngor fod y mater wedi’i atgyfeirio trwy ei broses ddiogelu. Nododd ymhellach nad oedd wedi delio â chŵyn Ms X o dan broses cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol yn flaenorol gan fod y mater yn cael ei ystyried gan y Crwner. O ystyried bod Swyddfa’r Crwner bellach wedi cadarnhau bod ei hymchwiliad wedi cau, cytunodd y cyngor:
• I ystyried ac ymateb i gŵyn Ms X o dan weithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
• Bydd swyddog cyngor yn cysylltu â Ms X i drafod manylion ei chŵyn, yn unol â gweithdrefnau, o fewn 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y penderfyniad.