Dyddiad yr Adroddiad

02/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202105766

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i’w gwynion yn unol â Gweithdrefn Gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Canfu’r Ombwdsmon, er yr ymchwiliwyd yn briodol i elfennau o’r gŵyn o’r blaen, nid oedd y Cyngor wedi symud ymlaen i gam 2 y broses gwyno yng nghyswllt elfennau mwy diweddar, yn unol â’r rheoliadau.

Felly, os oedd Mr X yn dal yn dymuno hynny, cytunodd y Cyngor i fwrw ymlaen ag unrhyw gwynion oedd heb eu datrys nad oedd wedi cael eu hystyried yn barod, i’w hystyried ar gam 2 Proses Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â’r amserlenni statudol.