Dyddiad yr Adroddiad

03/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202106987

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod Cyngor Caerffili wedi methu ag ystyried ei phryderon yn briodol, a’i fod wedi anwybyddu ei cheisiadau i uwchgyfeirio ei chŵyn am wasanaethau cymdeithasol i ail gam y drefn gwyno statudol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi dilyn y drefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi diangen i Miss A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Miss A, talu iawndal o £250 iddi ac agor ymchwiliad i gŵyn cam dau o fewn ugain diwrnod gwaith. Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Cyngor hefyd i atgoffa staff o hawliau achwynwyr o fewn y drefn gwyno statudol, ac i sicrhau bod achwynwyr yn cael gwybod am eu hawliau yn briodol.