Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202200881

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Er gwaethaf y ffaith fod Mr X wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i’r Cyngor, cwynodd nad oedd y Cyngor wedi ymateb iddo ynghylch ei bryderon.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb eto, a chysylltodd â’r Cyngor. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i roi llythyr o ymddiheuriad i Mr X am yr oedi, a chyflwyno ymateb ffurfiol i Mr X erbyn 30 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.