Dyddiad yr Adroddiad

10/29/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202002709

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs J am y ffordd y deliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) â’i cheisiadau i wneud cwyn ar ran y diweddar Mr Q ynghylch y driniaeth a dderbyniodd. Cwynodd Mrs J hefyd am y ffordd y deliodd Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) â’i cheisiadau i wneud cwyn am y driniaeth a dderbyniodd Mr Q gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb cychwynnol i bryderon Mrs J – awgrymai fod Mr Q wedi gofyn, pan oedd yn fyw, am i wybodaeth beidio â chael ei rhannu a Mrs J – nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ffurfiol a hynny ar ôl gohebiaeth yn para misoedd â Mrs J, oherwydd na chredai fod Mrs J yn “berson addas” i godi materion ar ran Mr Q. Ar ôl i Mrs J ofyn cwestiynau pellach yn dilyn derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd, roedd y Bwrdd wedi cymryd amser hir i ymateb a hefyd wedi casglu, pan wnaeth hynny, nad oedd Mrs J yn berson addas i godi materion pellach ar ran Mr Q. Casglodd yr Ombwdsmon er ei bod yn briodol bod y ddau gorff wedi gofyn am gytundeb perthynas agosaf Mr Q i ymateb i Mrs J, pan na allent sicrhau’r cytundeb hwn a’i bod yn glir felly mai Mrs J oedd yr unig berson a oedd yn barod i godi materion ar ran y diweddar Mr Q, y dylai ymateb fod wedi cael ei baratoi (ac un arall gan y Bwrdd Iechyd) yn ystyried barn Mr Q ynghylch yr hyn nad oedd eisiau ei rannu â Mrs J. Dywedodd yr Ombwdsmon y gallai hyn fod wedi ateb pryderon Mrs J ac efallai wedi arwain at iddi benderfynu nad oedd angen cysylltu â’r Ombwdsmon.

Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn cwyn Mrs J. Argymhellodd fod y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor yn ymddiheuro wrth Mrs J ac yn cydlynu ymateb ar-y-cyd yn ymateb i bryderon annatrys Mrs J. Argymhellodd hefyd fod pob corff yn talu iawndal o £250 i Mrs J i adlewyrchu’r oedi ynghyd a’i hamser a’i thrafferth yn gwneud ei chwynion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon.