Dyddiad yr Adroddiad

09/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202203184

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod meddyg Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed wedi ysgrifennu llythyr rhagfarnllyd at gynbartner ei fab.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ddarparu fersiwn ddiwygiedig o’r llythyr i fab Mr X, fel yr oedd wedi cytuno i wneud yn flaenorol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn erbyn 3 Hydref, ac roedd yr Ombwdsmon yn ystyried hynny i fod yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn.