Dyddiad yr Adroddiad

03/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202105314

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Mrs A am driniaeth ei mab, a oedd wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans preifat dan gontract gan y Bwrdd Iechyd, pan ddioddefodd argyfwng iechyd meddwl. Roedd wedi cael ymateb i’w chŵyn wreiddiol gan y Bwrdd Iechyd ond nid oedd o’r farn ei fod yn foddhaol, gan ei bod yn dweud bod yr aelod o staff a gynhaliodd yr ymchwiliad wedi dweud wrthi nad oedd wedi siarad â’r cwmni ambiwlans preifat fel rhan o’r ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ailymchwilio i’r gŵyn, gan gynnwys cysylltu â’r cwmni ambiwlans preifat a phartïon perthnasol eraill, a darparu ymateb o fewn 6 wythnos. Cytunodd y byddai’n rhannu deilliannau dysgu gyda’r Ombwdsmon. Cytunodd hefyd i gynnig £250 i Mrs A am ei hamser a’i thrafferth yn gorfod dod at yr Ombwdsmon i gael ateb.