Dyddiad yr Adroddiad

02/13/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Corwen

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202204951

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am gamweinyddu systemig ar ran Cyngor Tref Corwen (“y Cyngor”). Dywedodd nad oedd wedi cyhoeddi na darparu gwybodaeth statudol a ragnodwyd, ei fod wedi cyhoeddi gwybodaeth anghywir a chamarweiniol mewn cofnodion swyddogol a’i fod wedi methu â dilyn ei bolisïau ei hun o ran delio â chwynion.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i 2 gŵyn a gyflwynwyd gan Mr X ym mis Awst a mis Medi 2022. Yn ogystal, canfu fod y Cyngor wedi methu â chyhoeddi cofnodion nifer o gyfarfodydd ar ei wefan, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi cydnabyddiaeth ysgrifenedig i Mr X y byddai ei gwynion yn cael eu hymchwilio’n ffurfiol ac yr ymatebid iddynt, gan roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X am y methiant i ymateb i’w gwynion a rhoi ymateb ysgrifenedig i Mr X i’w gwynion, gan roi sylw llawn i’r holl faterion a godwyd ganddo, o fewn 30 diwrnod. O fewn 60 diwrnod, byddai’r Cyngor yn cadarnhau i’r Ombwdsmon bod holl gofnodion cymeradwy cyfarfodydd y Cyngor, ar gyfer pob cyfarfod a gynhaliwyd ers 1 Ionawr 2020, wedi cael eu llwytho i fyny i’w wefan.