Dyddiad yr Adroddiad

11/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymunedol Llanfairtalhaiarn

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202203933

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D i’r Ombwdsmon am faterion yn ymwneud â Chyngor Cymuned Llanfairtalhaiarn am nad oedd yn cadw cofnodion o gyfarfodydd ac agendau cyhoeddus y Cyngor Cymuned yn gyfoes. Roedd Mrs D yn anhapus gan ei bod wedi cwyno i’r Cyngor Cymuned yn y gorffennol ond nad oedd wedi cael ymateb digonol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor Cymuned yn cyflawni’r gofyniad i gyhoeddi cofnodion cyfarfodydd yn electronig yn unol ag Adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod Mrs D wedi cael ymateb manwl i’w chŵyn yn yr achos hwn.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor Cymuned i ymddiheuro i Mrs X, ynghyd ag ymateb priodol i’w chŵyn a chopïau electronig o holl gofnodion ac agendâu cyfarfodydd y Cyngor Cymuned a gynhaliwyd yn 2021 a 2022, yn ogystal â diweddaru gwefan y Cyngor Cymuned gydag ymddiheuriad am beidio â chyhoeddi cofnodion y cyfarfodydd ac amcangyfrif o’r amserlen ar gyfer eu cyhoeddi, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith. Hefyd sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor Cymuned i ddiweddaru’r dechnoleg ategol ar gyfer gwefan y Cyngor Cymuned ac i sicrhau bod yr holl gofnodion ac agendâu’n cael eu harddangos yn gywir, o fewn tri mis.