Dyddiad yr Adroddiad

12/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202204532

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs F, er ei bod wedi mynegi pryderon wrth Gyngor Bro Morgannwg, ei fod wedi gwrthod cydnabod nac ymateb.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu dilyn y drefn gwyno statudol ac wedi peri rhwystredigaeth i Mrs F.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs F am yr oedi cyn ymateb i’w phryderon a chyflwyno ymateb llawn o fewn 30 diwrnod gwaith.