Dyddiad yr Adroddiad

09/21/2021

Achos yn Erbyn

CAFCASS Cymru

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202103248

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Cafcass Cymru (“Cafcass”) wedi darparu cefnogaeth briodol iddi, gan gynnwys mynediad i arwyddwr Iaith Arwyddo Prydain. Rhoddodd Cafcass wybod i’r Ombwdsmon fod cŵyn Ms A allan o amser, ac roedd felly’n annhebygol y gallai archwilio ei phryderon.

Dywedodd yr Ombwdsmon fod Ms A wedi wynebu rhwystrau cyfathrebu oherwydd y pandemig, ac wrth geisio cael mynediad i gefnogaeth amserol briodol i godi ei phryderon.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb Cafcass i arfer disgresiwn dan ei Bolisi Cwynion i dderbyn ac ystyried cŵyn Ms A, a thrafod ei hanghenion drwy’r broses gwynion, ynghylch addasiadau rhesymol a mynediad i arwyddwr Iaith Arwyddion Prydain.