Dyddiad yr Adroddiad

11/08/2021

Achos yn Erbyn

CAFCASS Cymru

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202104024

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cafcass Cymru wedi cyfyngu ar ei allu i gysylltu â’r swyddfa dros y ffôn oherwydd honiad o ymddygiad amhriodol tuag at ei staff.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai Cafcass Cymru (o fewn 2 wythnos i’r achos llys a drefnwyd) adolygu ei gyfyngiad a rhoi penderfyniad ysgrifenedig i Mr X yn ei hysbysu os yw’r cyfyngiad ar gysylltu â’r swyddfa dros y ffôn wedi’i godi neu beidio; ac os na, rhoi amserlen iddo o ran pryd y byddai’n adolygu ei benderfyniad nesaf.
Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hwn yn benderfyniad priodol i’r gŵyn yn lle cynnal ymchwiliad.