Dyddiad yr Adroddiad

07/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202200667

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Swyddog (“Yr Achwynydd”) o Gyngor Bwrdeistref Siriol Merthyr Tudful (“y Cyngor”), fod Aelod o’r Cyngor wedi methu â chadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau’r Cyngor.

Honnwyd bod yr Aelod, yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, wedi tynnu taflen wleidyddol o flwch llythyrau aelod o’r cyhoedd, wedi rhoi ei daflen ei hun yn ei lle, ac wedi mynd â’r eitem a dynnwyd oddi yno. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd ymddygiad honedig yr Aelod wedi dwyn anfri ar yr Aelod a’r Cyngor.

Cafodd yr Ombwdsmon wybodaeth gan Swyddog Monitro’r Cyngor, gan gynnwys lluniau fideo o’r digwyddiad. Cadarnhaodd y Cyngor, er bod y mater wedi’i adrodd i’r Comisiwn Etholiadol a’r Heddlu, sefydlwyd nad oedd y mater yn drosedd etholiadol neu’n drosedd Post Brenhinol ac roedd y ddau gorff wedi gwrthod cymryd unrhyw gamau pellach.

O ganlyniad, nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bellach fod ymchwilio i’r gŵyn er budd y cyhoedd, a phenderfynwyd terfynu’r ymchwiliad.