Dyddiad yr Adroddiad

10/21/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202104158

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chyfathrebu’r cynnydd oedd yn digwydd gyda chamau gorfodaeth yn brydlon. Cwynodd Mr X hefyd am y diffyg ymateb i’w lythyr o gŵyn i’r Cyngor ym mis Mehefin 2021.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gysylltu â Mr X i drafod ei gŵyn a derbyn copi fel bo angen o’i lythyr cwyn. Byddai yna’n rhoi ymateb (“cam dau”) ffurfiol yn unol â’i broses cwynion mewnol, o fewn 20 diwrnod gwaith.

Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.