Dyddiad yr Adroddiad

11/04/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202104499

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod y Cyngor heb ymateb na rhoi gwybod iddi am ei chŵyn am ddatblygiad ei chymydog heb ganiatâd cynllunio a effeithiodd ar ei phreifatrwydd. Roedd hi eisiau i’r Cyngor ystyried cymryd camau gorfodi ar gyfer y datblygiad heb ei awdurdodi.

Tra’n nodi nad oedd ei awdurdodaeth yn ei alluogi i orfodi’r Cyngor i gymryd camau gorfodi (sy’n benderfyniad disgresiwn), roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi wrth ymateb i gŵyn Ms A a’r methiant i’w diweddaru ac i gyfathrebu â hi.

Cytunodd y Cyngor i gynnig yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad. Cytunodd i roi diweddariad i Ms A am ei chŵyn erbyn 12 Tachwedd 2021, gydag ymddiheuriad am yr oedi.