Dyddiad yr Adroddiad

03/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Darparwyr Iechyd Annibynnol

Cyfeirnod Achos

202107539

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio ac ymateb i’w chŵyn am gynnydd mewn ffioedd cartref nyrsio.
Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi ymateb i Ms X er ei bod wedi cael gwybod ym mis Awst 2021 bod ymholiadau’n cael eu gwneud. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Ms X:
Erbyn 21 Ebrill 2022,
a) Ymddiheuro i Ms X am fethu ag ymateb
b) Rhoi ymateb llawn i Ms X i’w neges e-bost