Dyddiad yr Adroddiad

04/26/2022

Achos yn Erbyn

Cartref Nyrsio Plas Gwyn

Pwnc

Darparwyr Iechyd Annibynnol

Cyfeirnod Achos

202200031

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd yn gallu ymweld â’r Darparwr Gofal ac nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Mrs X wedi derbyn ymateb i’w phryderon eto a chysylltodd â’r Darparwr Gofal. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Darparwr Gofal i roi ymateb ffurfiol i gŵyn Mrs X erbyn 6 Mai 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mrs X.