Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Darparwyr Gofal Iechyd Annibynnol

Cyfeirnod Achos

202102997

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A, drwy ei Adfocad Cyngor Iechyd Cymuned, am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei dad, Mr B, yn y Cartref Gofal. Roedd anghenion gofal Mr B yn golygu ei fod yn derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG (“NHSCHC”) gan y Bwrdd Iechyd a oedd yn gyfrifol am fonitro’r gofal a ddarparwyd i Mr B, yn ogystal â thalu am agweddau perthnasol ffioedd ei gartref gofal. Roedd pryderon Mr A yn cynnwys rheoli uniondeb croen ei dad a’r camau diogelu a gymerwyd mewn perthynas â hyn. Cwynodd hefyd am oedi cyn rhoi gwely llif aer pwysedd, cadair arbenigol a hoist i’w dad. Gofynnodd hefyd pam nad oedd NHSCHC yn cynnwys y costau parhaus a ysgwyddodd ei dad am ystafell gyda golygfa o’r môr, a gwasanaethau torri gwallt ac ewinedd. Yn olaf, roedd yn anhapus ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.

Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod cyflyrau iechyd presennol Mr B yn golygu bod strategaethau ataliol i fynd i’r afael â’i friwiau pwyso yn anodd. Wedi dweud hynny, tynnodd yr ymchwiliad sylw at ddiffygion gweinyddol mewn perthynas â dogfennau’r Cartref Gofal a oedd, yn absenoldeb y cofnodion, yn golygu nad oedd yr Ombwdsmon yn gallu dweud yn bendant pa fesurau atal a oedd wedi’u rhoi ar waith gan y Cartref Gofal i leihau’r risg y byddai Mr B yn datblygu niwed i’r croen. Canfu’r Ombwdsmon fod y diffyg dogfennau nid yn unig yn gyfystyr â chamweinyddu ond hefyd wedi achosi diffygion yn y gwasanaeth ac felly anghyfiawnder i Mr B.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd wedi archwilio a oedd modd atal briwiau pwyso Mr B. Roedd hyn yn golygu bod rhan bwysig o’i rôl fonitro, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo oruchwylio a chraffu’n drylwyr ar y corff a gomisiynir, wedi cael ei cholli. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhannau hyn o gŵyn Mr A.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Cartref Gofal a’r Bwrdd Iechyd wedi delio’n brydlon â phryderon am ddiogelu, a bod yr offer arbenigol angenrheidiol wedi cael ei ddarparu. Yn ogystal, daeth i’r casgliad bod NHSCHC wedi cael ei dalu’n gywir.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Cartref Gofal a’r Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro ar y cyd i Mr A am y diffygion a nodwyd gan yr ymchwiliad. Gofynnwyd i’r Cartref Gofal ddarparu tystiolaeth o’r broses y mae wedi’i rhoi ar waith i atal colli cofnodion rhag digwydd eto. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd adolygu ei ddull o ymdrin â chwynion yn yr achos hwn er mwyn nodi meysydd lle’r oedd cyfleoedd i ddysgu gwersi. Yn ogystal, dylai’r Bwrdd Iechyd dalu £250 i Mr A am y diffygion o ran delio â chwynion ac adolygu’r ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn yn yr achos hwn.