Dyddiad yr Adroddiad

04/27/2022

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202108532

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X, tenant Trivallis (darparwr tai cymdeithasol), fod y gwaith o osod intercom i gynorthwyo gyda’i hanabledd wedi’i ohirio a bod gwaith atgyweirio arall (i’r sied, ffenestri a’r gawod) heb ei wneud. Roedd contractwyr a drefnwyd wedi methu â mynychu cartref Ms X, yn ôl y disgwyl, i wneud y gwaith angenrheidiol.
Tra bod yr Ombwdsmon yn gwneud ymholiadau i’r gŵyn, cafodd yr intercom ei osod a’i gwblhau er boddhad Ms X. Nodwyd methiant yn y gwasanaeth mewn perthynas â’r materion eraill a ohiriwyd. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, ac er mwyn datrys pryderon Ms X, cytunodd Trivallis i ymgymryd â’r camau canlynol (o fewn 1 mis ac eithrio lle y nodir yn wahanol):
• Ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms X am y methiant yn y gwasanaeth a nodwyd.
• Cynnig £150 i Ms X am ei hamser a’i thrafferthion wrth orfod mynd ar drywydd y materion hyn gyda’r Ombwdsmon.
• Contractwr penodol i fod yn bresennol ar 28 Ebrill 2022 i ddelio â’r sied.
• Archwiliad pellach o’r gawod i’w gynnal ar 27 Ebrill 2022 a saer coed i fod yn bresennol ar yr un dyddiad i osod panel bath newydd.
• Contractwr i ymweld ag ef i ddelio â mater y ffenestri ar 28 Ebrill 2022.