Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Grŵp Cynefin

Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2022

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202105641

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Grŵp Cynefin

Cwynodd Mr X nad oedd ei landlord, Grŵp Cynefin, wedi rhoi gwybod iddo fod gwaith strwythurol yn cael ei wneud mewn eiddo sydd ynghlwm. Aeth y gwaith yn ei flaen am saith mis i gyd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ni chafodd ddyddiad gorffen ar gyfer y gwaith, ac roedd dryswch ynghylch amser dechrau’r gwaith adeiladu bob bore.
Derbyniodd Grŵp Cynefin fod diffygion yn ei drefniadau cyfathrebu a’i drefniadau gyda Mr X. Dywedodd ei fod wedi dysgu am y profiad ac y byddai unrhyw waith o’r maint hwn yn y dyfodol yn cael ei drin yn wahanol.
Cytunodd:
• Archwilio materion a godwyd ynghylch y ffens derfyn, a gwneud y gwaith adfer angenrheidiol;
• Gwneud taliad ex gratia i Mr X o £750, o fewn mis, i adlewyrchu’r aflonyddwch a’r anhwylustod, yn ogystal â’r taliad o £250 a wnaed iddo tra’r oedd y gwaith yn dal i fynd rhagddo

Yn ôl