Dyddiad yr Adroddiad

09/02/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202101684

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A bod niwed wedi cael ei achosi i’w chartref pan roedd isgontractwyr yn ffitio ffenestri newydd i’w heiddo Cyngor. Roedd y Cyngor wedi ei chyfeirio at is-gontractwr i geisio datrys ei hanghydfod, oedd wedi methu.

Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor, ei landlord, yn gyfrifol am ei chynrychioli a negodi datrysiad i’r honiad o niwed gyda’r is-gontractwr.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i:
1) Drefnu ymweliad i gartref Ms A i archwilio’r niwed.
2) Cysylltu â’r is-gontractwr i negodi datrysiad derbyniol am y niwed a achoswyd.
Rwy’n deall fod y Cyngor eisoes wedi ymgymryd â’r broses hon a’i fod yn aros am ymateb gan yr is-gontractwr. Creda’r Ombwdsmon fod camau gweithredu’r Cyngor yn datrys cŵyn Mrs A.