Dyddiad yr Adroddiad

07/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202201952

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd y gwaith atgyweirio a gododd gyda’r Cyngor wedi’i gwblhau eto er gwaethaf yr addewidion i wneud hynny.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod Miss X wedi dod ar draws oedi wrth weithredu’r atgyweiriadau a godwyd ac felly wedi cysylltu â’r Cyngor. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor y byddai’n trefnu ymweliad ag eiddo Miss X erbyn 30 Awst 2022 i bennu hyd a lled y gwaith atgyweirio sydd angen ei wneud, ac i archwilio pa waith atgyweirio a deunyddiau fyddai eu hangen. Cytunodd y Cyngor hefyd i flaenoriaethu’r gwaith o atgyweirio eiddo Miss X unwaith y bydd ganddo ddealltwriaeth lawn o’r gwaith atgyweirio angenrheidiol. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn MISS X.