Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202206190

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms N fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi am y cynnydd o ran addasu eiddo i gyd-fynd ag anghenion ei mab.

Canfu’r Ombwdsmon fod bwlch wedi bod lle nad oedd y Cyngor wedi cyfleu ei gynnydd i Ms N a oedd wedi achosi pryder a rhwystredigaeth ychwanegol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu’n uniongyrchol at Ms N ac ymddiheuro am y methiant i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddi ar adeg arwyddocaol yn y broses. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y cam hwn yn rhesymol ac i setlo’r mater heb ymchwiliad.