Dyddiad yr Adroddiad

03/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202108437

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X ei fod ef a’i wraig wedi cael eu symud i lety dros dro tra’r oedd gwaith yn cael ei gwblhau i’w cartref. Fodd bynnag, cwynodd Mr X ei fod wedi bod allan o’i gartref am sawl mis yn hwy na’r hyn a ddywedwyd wrtho’n wreiddiol. Cwynodd hefyd nad oeddent wedi cael gwybod faint o amser y byddai’r gwaith yn ei gymryd a phryd y byddent yn gallu symud yn ôl i’r eiddo.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr X (o fewn 3 wythnos) a ddylai roi amserlen glir iddo ar gyfer cwblhau’r gwaith yn ei gartref, a dyddiad y byddai’n gallu symud yn ôl i’r eiddo. Dylai hefyd gynnig ymddiheuriad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.