Dyddiad yr Adroddiad

08/04/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Wales & West

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202100751

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X wrth yr Ombwdsmon am waith adnewyddu a gwblhawyd ar ei heiddo dan Grant Addasiadau Ffisegol. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd y rhestr o fân broblemau a oedd heb eu datrys wedi cael eu datrys.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Ombwdsmon, cytunodd WWHA y byddai’n ymgymryd â’r canlynol i setlo ei chwyn:

• Trefnu cyfarfod gyda Mrs X i nodi ei phryderon erbyn 13 Awst 2021.
• Yn dilyn y cyfarfod, paratoi ymateb ysgrifenedig i’r pryderon, yn ogystal â chynllun ysgrifenedig ar gyfer unrhyw waith y cytunwyd arno erbyn 10 Medi 2021.