Dyddiad yr Adroddiad

05/04/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202200253

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am waith trwsio a oedd angen ei wneud yn ei gartref.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Gymdeithas gysylltu â Mr X (erbyn 18 Mai) i drefnu i fynd i’w gartref gyda chontractwyr enwebedig i wneud archwiliad i weld pa waith trwsio a oedd angen ei wneud a chytuno ar ffrâm amser ar gyfer ei gwblhau. Cynigiodd y Gymdeithas dros dro i’r ymweliad ddigwydd ar 20 Mai.

Barnai’r Ombwdsmon fod hwn yn ateb priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.