Dyddiad yr Adroddiad

06/23/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202101737

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi ymateb na chynnig eglurhad a fydda’n rhoi sylw i’w phryderon am y difrod a achoswyd i eiddo ei mam-gu o ganlyniad i nwy’n gollwng yn ei heiddo.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Gymdeithas Dai gynnig ymateb ysgrifenedig i Miss X, yn ogystal ag ymddiheuriad ac yn amlinellu iawndal y bydd yn ei gynnig.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn.