Dyddiad yr Adroddiad

10/25/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202204364

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na wnaeth y Gymdeithas ymateb i’w gŵyn am waith heb ei wneud i’w ardd, ac mae’n honni ei fod wedi cytuno ar lafar i ymrwymo i’w wneud yn ddiogel i’w blentyn.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas, ac fe gytunodd i roi ymateb i gŵyn Mr X o fewn pythefnos. Cytunodd hefyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn darparu ei ymateb.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad digonol yn lle ymchwilio i’r gŵyn.