Dyddiad yr Adroddiad

07/20/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202201454

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod y Gymdeithas wedi methu â chyfathrebu’r problemau a adroddwyd yn ei heiddo a’i bod wedi wynebu oedi sylweddol o ran gweithredu’r atgyweiriadau.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod Miss X wedi wynebu oedi cyn gweithredu atgyweiriadau a’i bod yn dal i fod â gwaith atgyweirio heb ei wneud ar ei heiddo. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas, a chytunodd i wneud y canlynol. Rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss X am yr oedi y mae hi wedi’i brofi erbyn 5 Awst 2022. Cytunodd hefyd y byddai’n blaenoriaethu’r holl archebion i eiddo Miss X ac yn trefnu i gontractwr ymweld â’r eiddo i gytuno ar fanylebau erbyn 19 Awst 2022, ac i roi amserlen ar gyfer y gwaith sydd wedi’i drefnu a’r apwyntiadau gyda Miss X erbyn 30 Awst 2022.

Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Miss X.