Dyddiad yr Adroddiad

06/10/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202201275

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod to modurdy yn gollwng, a bod eitemau personol wedi’u difrodi. Cwynodd hefyd am ddiffyg cyfathrebu gyda chontractwyr y Gymdeithas sydd, yn ôl Mr X, yn canslo apwyntiadau heb rybudd yn hwyr iawn yn y dydd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Gymdeithas roi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Mr X (o fewn 3 wythnos) i roi sylw i’w bryderon.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.