Dyddiad yr Adroddiad

03/26/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202107880

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cymdeithas Tai Hafod (“Hafod”) wedi cyfathrebu ag ef ynghylch dŵr yn mynd i mewn i’w gartref drwy ei falconi, ac nad oedd wedi datrys y mater.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi rhoi gwybod am y mater am y tro cyntaf dros 12 mis cyn i Mr A gyflwyno ei gŵyn i’w swyddfa, ond nad oedd y mater wedi ei ddatrys. Canfu hefyd fod Hafod wedi trefnu arolwg llawn o’r adeilad, ac y byddai’n gwneud gwaith adfer unwaith y byddai’n derbyn adroddiad yr arolygwr. Yn ogystal, roedd Hafod wedi cysylltu â Mr A i ymddiheuro am y diffyg cyfathrebu a’r oedi cyn unioni’r mater.
O ran y difrod a achoswyd i eiddo Mr A, ac i gydnabod y cyfathrebu gwael a’r oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio, ceisiodd yr Ombwdsmon sicrhau cytundeb Hafod i ymgymryd â’r canlynol:
Ar ôl cwblhau’r gwaith atgyweirio i ddatrys y dŵr sy’n mynd i mewn i eiddo Mr A – Darparu pecyn addurno iddo neu drefnu i gontractwr wneud y gwaith ailaddurno, yn dibynnu ar ddewis Mr A.
O fewn 10 diwrnod gwaith – Talu iawndal ariannol o £200 (sy’n cyfateb i’w dâl cynnal a chadw blynyddol) i Mr A i gydnabod y cyfathrebu gwael a’r oedi wrth wneud y gwaith atgyweirio.