Dyddiad yr Adroddiad

11/23/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205045

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs T am nad oedd Cymdeithas Tai Hafod wedi datrys ei chŵyn am gawod ddiffygiol a oedd wedi gollwng trwodd i nenfwd ei chegin gan wneud twll.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ymateb i gŵyn Mrs T. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i ymddiheuro i Mrs T, rhoi eglurhad am y methiant i beidio ag ymateb i’r gŵyn, a chyhoeddi ymateb i’r gwyn o fewn 4 wythnos.