Dyddiad yr Adroddiad

02/14/2023

Achos yn Erbyn

Cartrefi Dinas Casnewydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205107

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D wrth yr Ombwdsmon nad oedd Cartrefi Dinas Casnewydd wedi datrys nifer o broblemau cynnal a chadw mewn perthynas â’i heiddo, gan adael ei thŷ mewn cyflwr gwael.

Canfu’r Ombwdsmon, ar ôl i Mrs D gyflwyno ei chwyn i’r Corff, a gafodd ei huwchgyfeirio i Gam 2 ym mis Mehefin 2022, nad oedd y Corff wedi darparu ymateb ysgrifenedig tan fis Tachwedd 2022. Cadarnhaodd y Corff y gŵyn, ymddiheurodd am y gwasanaeth a rhestru pob mater cynnal a chadw yn unigol er mwyn datrys pob un. Nid yw’r gwaith atgyweirio wedi’i gwblhau.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i gynnig iawndal ariannol o £400 i Mrs D i gydnabod yr oedi cyn cwblhau ei gwaith trwsio ac am ei hamser a’i thrafferth wrth fynd ar drywydd cwyn, cwblhau ailwifro’r eiddo’n drydanol fel blaenoriaeth, sicrhau bod y system wresogi a osodwyd ym mis Rhagfyr 2022 heb ollyngiadau, cwblhau’r holl waith sy’n weddill fel y nodwyd yn ymateb y Corff i’r gŵyn dyddiedig 16 Tachwedd 2022 a chysylltu â Mrs D i ddatrys pryderon ynghylch difrod pellach o waith sydd eisoes wedi’i wneud, o fewn 30 diwrnod a fydd yn dechrau o’r dyddiad pan fo Mrs D yn cytuno i’r gwaith gael ei gwblhau.