Dyddiad yr Adroddiad

07/29/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202201085

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i phryderon am adroddiadau o niwsans sŵn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio neu ddarparu ymateb i bryderon diweddaraf Miss X. Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol i setlo cwyn Miss X erbyn 19 Awst 2022, yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio i’r achos:

a) Ymddiheuro i Miss X am yr oedi cyn ymateb i’w phryderon ac agor ffeil newydd ar gyfer yr ymchwiliad gorfodi cynllunio

b) Rhoi esboniad am yr oedi

c) Ymrwymo i ddechrau ymchwiliad erbyn dechrau mis Awst 2022 a darparu ymateb yn cynnwys ei ganfyddiadau.