Dyddiad yr Adroddiad

02/13/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202205998

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am fethiant Cyngor Sir Caerfyrddin (“y Cyngor”) i roi copi iddo o adroddiad a wnaed gan Ymchwilydd Annibynnol (“II”) am gyfnod o 12 mis. Dywedodd Mr X fod yr adroddiad yn cynnwys gwallau, ac na chafodd gyfle i adolygu adroddiad drafft, i gywiro’r rhain. Yn olaf, mynegodd Mr X bryderon ynghylch annibyniaeth yr II, a dywedodd fod yr adroddiad yn rhagfarnllyd yn ei erbyn, a’i fod yn cynnwys sylwadau amhriodol.

Canfu’r Ombwdsmon fod methiant ar ran y Cyngor i ddarparu copi o adroddiad yr II i Mr X, ac nad oedd ond wedi ei ddarparu iddo ar ôl iddo gysylltu â’i swyddfa. Hefyd, canfu na chafodd Mr X gyfle i gywiro gwallau ffeithiol yn adroddiad yr II. Yn olaf, nid oedd y Cyngor wedi hysbysu Mr X, pa rai, os o gwbl, o’r argymhellion yn adroddiad yr II oedd wedi’u rhoi ar waith.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd y camau canlynol:

O fewn 20 niwrnod gwaith:

• Ymddiheuro’n ystyrlon i Mr X, ynghyd ag esboniad llawn am y methiant i roi adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol iddo am gyfnod o 12 mis.

• Ystyried sylwadau Mr X am yr anghywirdeb ffeithiol yn adroddiad yr Ymchwilydd Annibynnol a’u hatodi i’r adroddiad (fel bod un ddogfen yn cael ei llunio) gydag atodiad y dylai unrhyw un sy’n cael yr adroddiad ystyried ei gyflwyniad ar yr un pryd.

• Rhoi esboniad manwl i Mr X, gan amlinellu’n llawn pa rai (os o gwbl) o argymhellion yr Ymchwilydd Annibynnol a oedd wedi eu rhoi ar waith, a oedd heb eu gweithredu (a’r amserlen ar gyfer eu cwblhau) a manylion unrhyw welliannau ychwanegol a wnaed i Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor.

• Ymddiheuro’n ystyrlon am y methiant i ymchwilio i gŵyn wreiddiol Mr X (y deliwyd ag ef yng Ngham 2 ym mis Medi 2020) yn briodol.