Dyddiad yr Adroddiad

11/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202203811

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S nad oedd, yn dilyn cytundeb datrysiad cynnar rhwng y Cyngor a’r Ombwdsmon ym mis Mehefin 2021, byth wedi cael ymateb llawn gan y Cyngor, ac nad oedd wedi’i ddiweddaru.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms S wedi cael ymateb llawn i’w bryderon, ac am nad oedd y Cyngor wedi cydymffurfio â’r datrysiad cynnar blaenorol. O ganlyniad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd â’r canlynol. Cytunodd y Cyngor y byddai’n ysgrifennu at Mr S ac yn ymddiheuro am yr oedi roedd wedi’i brofi. Gan fod yr adroddiad erbyn hyn wedi’i gwblhau, a chytunodd y Cyngor hefyd y byddai’n cyflenwi copi llawn o’r adroddiad i Mr S o fewn 20 diwrnod gwaith. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr S.