Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202205412

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi methu cydnabod neu ddarparu ymateb i gŵyn am fater cynllunio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i Mr S yn y lle cyntaf, nad oedd wedi cydnabod nac ymateb i’w gŵyn ddilynol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr S, rhoi esboniad am y methiant hwn, a chyflwyno ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.