Dyddiad yr Adroddiad

10/17/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202203738

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi rhoi ymateb i’w gŵyn a gyflwynodd ar 13 Mehefin 2022.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a bod methiant y Cyngor i ddarparu ymateb wedi amharu ar Mr X. Yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mr X:

Erbyn 25 Hydref 2022

a) Ymddiheuro i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn

b) Rhoi ymateb i gŵyn Mr X

c) Rhoi taliad ariannol o £50 i Mr X i gydnabod yr oedi