Dyddiad yr Adroddiad

04/22/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202005735

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A a Ms B am Dystysgrif Cyfreithlondeb Defnydd Sefydledig neu Ddatblygiad a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (y Cyngor) mewn perthynas â maes saethu ger eu cartref ac nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w cwynion yn unol â’i Bolisi Cwynion Corfforaethol.

Gwrthododd yr Ombwdsmon ymchwilio i hyn. Er bod y Cyngor wedi darparu ymatebion i ohebiaeth, roeddent wedi’u trin fel ceisiadau am wasanaeth. Cafodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ystyried y gŵyn yn unol â’i Bolisi Cwynion Corfforaethol.

Cytunodd y Cyngor y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn ymchwilio i’r gŵyn o dan gam 1 yn ei Bolisi Cwynion Corfforaethol ac yn darparu ymateb ysgrifenedig i Mr A a Ms B am y cwynion a gyflwynwyd i’r Ombwdsmon.

Barn yr Ombwdsmon oedd bod y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Mr A a Ms B.