Dyddiad yr Adroddiad

04/27/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202108709

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs S am y modd yr ymdriniwyd â’u cwyn yn erbyn Adran Gynllunio Cyngor Bro Morgannwg. Ymchwiliwyd i’r gŵyn yng Ngham 2 proses gwyno’r Cyngor gan swyddog o’r Adran Gynllunio – nid oedd yr achwynwyr o’r farn bod yr ymateb yn ddiduedd.

Canfu asesiad o’r gŵyn na ddylai’r adran y cwynwyd yn ei herbyn fod wedi ymchwilio i’r gŵyn yng Ngham 2, gan fod hyn wedi arwain at ganfyddiad nad oedd y farn honno’n ddiduedd. Roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder i Mr a Mrs S. Felly, gofynnwyd i’r Cyngor ymchwilio i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn ac adolygu p’un ai a oedd yr ymateb gwreiddiol i’r achwynwyr yn llawn ac yn briodol.

Cytunodd y Cyngor y byddai uwch swyddog o adran arall yn agor ymchwiliad Cam 1 i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r gŵyn wreiddiol ac y byddai hefyd yn adolygu a ph’un ai a oedd yr ymateb gwreiddiol yn briodol. Gofynnwyd i’r broses hon gael ei chwblhau o fewn 6 wythnos.