Dyddiad yr Adroddiad

02/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202106497

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am benderfyniad Cyngor Abertawe i roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo cyfagos. Yng nghyswllt ymateb y Cyngor i’w gŵyn, dywedodd Mr X ei fod yn anwybyddu’r rhan fwyaf o’i gŵyn a materion polisi penodol a’i fod yn annigonol, yn anghyflawn ac yn anfoddhaol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn yn rhoi digon o sylw i’r holl faterion yr oedd Mr X wedi’u cynnwys yn ei gŵyn.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymateb ysgrifenedig llawn arall i Mr B ar gyfer ei gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith.